Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.45 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Lesley Griffiths Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Yn absenoldeb Andrew RT Davies a Kirsty Williams ddydd Mawrth, bydd Paul Davies ac Aled Roberts yn cymryd rhan yn sesiwn Cwestiynau'r Arweinwyr yn eu lle.
Bydd y Llywydd yn gwneud datganiad am Ymgysylltu â Phobl Ifanc ar ddechrau'r cyfarfod. Bydd Arweinwyr y Pleidiau hefyd yn cael eu galw i siarad.
Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Darparodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth amserlen wedi'i diwygio ar gyfer cwestiynau llafar.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd wedi cwrdd â llefarwyr y pleidiau ynghylch y Rheoliadau Lles Anifeiliaid, ac awgrymodd fod angen rhagor o amser arni i ystyried y rheoliadau.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd ar amserlen ar gyfer yr eitemau busnes canlynol:
Dydd Mercher 1 Hydref 2014
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014/2015
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr holl Filiau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, gan gynnwys y rhai sydd ar ffurf drafft a'r rhai nad ydynt ar ffurf drafft, ar gyfer y pedwerydd sesiwn Seneddol.
Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor y bydd y Llywodraeth yn adolygu pryd y bydd cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ofynnol yn y dyfodol, yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru).
4.2 Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad
Wedi gwaith ymgynghori â grwpiau, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddiwygio'r darpariaethau yn Rheol Sefydlog 26 ynghylch Memoranda Esboniadol diwygiedig, a'r amser rhwng y cyfnodau diwygio terfynol a Chyfnod 4.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y cynigion ynghylch diwygio Rheol Sefydlog 26 a bydd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes yn paratoi adroddiad drafft i'r Pwyllgor ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Y Cyfarfod Llawn
5.1 Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad
Yn y cyfarfod ar 1 Gorffennaf 2014, ystyriodd y Rheolwyr Busnes gynigion ar gyfer diwygio Cwestiynau Llafar y Cynulliad. Cafwyd cefnogaeth unfrydol i'r cynnig ynghylch Cwestiynau'r Llefarwyr.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd Cwestiynau'r Llefarwyr yn cychwyn ddechrau tymor yr hydref 2014, a bydd Cwestiynau'r Llefarwyr yn disodli'r arfer bresennol o ganiatáu i lefarwyr ofyn dau gwestiwn atodol ar gwestiwn a gyflwynwyd o'u dewis.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes pan fydd llefarydd yn dymuno gofyn cwestiynau sy'n dod o dan gyfrifoldeb Dirprwy Weinidog, caiff y Llywodraeth ei hysbysu'r bore hwnnw.